Cofrestru fel Claf
I gofrestru yn y practis, mae angen i chi sicrhau eich bod yn byw o fewn ffin ein practis ac yn llenwi Ffurflen Cofrestru Cleifion Newydd GMS1W, Holiadur ar gyfer Cleifion Newydd ac Holiadur Ethnigrwydd sydd hefyd ar gael dros y cownter ym mhob un o’n clinigau. Defnyssich y Restr Wirio Cofrestry Claf Newydd I sicrhau bod gennych yr holl fanylion angenrheidiol.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn
- Efallai y bydd angen I chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad I ni
- Efallai bydd angen i chi fynd i apwyntiad gwirio claf newydd gyda nyrs
- Bydd angen i chi gael cyflenwad 1 mis o'ch meddyginiaeth gyfredol gan eich Meddyg Teulu, er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i bara tan eich apwyntiad gwirio claf newydd
Os yw'r claf o dan 16 oed
Rhaid I blant dan 16 oed fod a rhiant neu warcheidwad wedi’I gofrestru gyda’r feddygfa. Cwblhewch yr claf newydd ar gyfer cleifion dan 16 oed.
Cofrestru dros dro
I gofrestru fel claf dros dro cwblhewch y ffurflen GMS3 a'i dychwelyd i'n tîm derbynfa. Gallwch gofrestru fel claf dros dro os ydych yn bwriadu byw ger y feddygfa am hyd at 3 mis. Ar ôl 3 mis bydd yn rhaid i chi wneud cais i gofrestru gyda'r feddygfa honno fel claf parhaol. Gallwch gofrestru dros dro gyda meddygfa tra oddi cartref ar gyfer gwaith, astudio neu ar wyliau. Byddwch yn parhau i fod yn gofrestredig gyda'ch meddygfa barhaol. Bydd y feddygfa dros dro yn trosglwyddo manylion unrhyw driniaeth a gewch i'ch meddygfa barhaol. Byddant yn ychwanegu'r wybodaeth at eich cofnodion meddygol.
Newid manylion
Wrth gofrestru gyda'r practis, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho’r ap GIC Cymryu, a fydd yn eich galluogi i gwirio a chanslo apwyntiadau ar-lein a archebu presgripsiynau ailroddadwy ar-lein.
Gwnewch yn siŵr, os gwelwch yn dda, eich bod yn cadw'ch manylion yn gyfredol, gorchwyl y gallwch chi ei wneud eich hun drwy ddefnyddior ap GIC Cymru neu drwy gysylltu â'r Dderbynfa.