Hawliau a Chyfrifoldebau
- Rydym yn parchu'ch hawl i breifatrwydd ac yn cadw'ch holl wybodaeth iechyd yn gyfrinachol ac yn ddiogel. Mae'n bwysig bod y GIG yn cadw cofnodion cywir a diweddar am eich iechyd a'ch triniaeth fel y gall y rhai sy'n eich trin roi'r cyngor a'r gofal gorau posibl i chi. Mae'r wybodaeth hon ar gael i'r rhai sy'n ymwneud â'ch gofal yn unig ac ni ddylai unrhyw un nad yw'n ymwneud â'ch gofal ofyn i chi am wybodaeth feddygol
- Byddwch yn cael eich trin fel partner yn y gofal a'r sylw a gewch
- Byddwch yn cael eich trin fel unigolyn a byddwch yn cael cwrteisi a pharch bob amser. Gofynnwn i chi hefyd drin y meddygon a staff y practis gyda chwrteisi a pharch a dangos ystyriaeth i gleifion eraill trwy wneud defnydd cyfrifol o'n gwasanaeth i chi
- Rydym yn gweithredu POLISI DIM GODDEFGARWCH ac yn cymryd o ddifrif unrhyw ymddygiad bygythiol, ymosodol neu dreisgar yn erbyn unrhyw un o'n staff neu’n cleifion. Os yw claf yn dreisgar neu'n ymosodol, gallwn arfer ein hawl i weithredu i'w dynnu, ar unwaith os oes angen, o'n rhestr gleifion
- Yn dilyn trafodaeth byddwch yn derbyn y gofal mwyaf priodol, a roddir gan bobl â chymwysterau addas. Ni roddir unrhyw ofal na thriniaeth heb eich cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys
- Gwneir pob ymdrech i sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich iechyd a'r gofal sy'n cael ei gynnig
- Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda, os byddwch chi'n newid eich enw, eich cyfeiriad neu’ch rhif cyswllt
- Ein gwaith ni yw rhoi triniaeth a chyngor i chi. Er budd eich iechyd mae'n bwysig eich bod yn deall yr holl wybodaeth a roddir i chi. Os gwelwch yn dda, gofynnwch gwestiynau i ni os nad ydych yn gallu deall yr holl wybodaeth
- Cofiwch, os gwelwch yn dda, mai chi yw'r un sy'n gyfrifol am eich iechyd eich hun ac iechyd eich plant a'n bod ni yma i roi help a chyngor proffesiynol i chi
- Gallwch ein helpu trwy gysylltu â ni os na allwch gadw apwyntiad fel y gellir ei gynnig i rywun arall. Efallai y gofynnir i gleifion sy'n mynychu apwyntiad yn rhy hwyr i naill ai aros tan ddiwedd sesiwn y feddygfa neu wneud apwyntiad pellach am ddiwrnod arall