Eich Gwybodaeth Feddygol
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'ch cofnodion meddygol a gedwir ar ffeil. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig a chânt eu cyflawni o fewn 30 diwrnod i’w derbyn. Gall fod achlysuron mewn amgylchiadau eithriadol lle gellir ymestyn hyn.
Mynediad at Gofnodion Meddygol
O dan y Ddeddf Diogelu Data a Mynediad at Gofnodion Iechyd, gall cleifion ofyn am weld eu cofnodion meddygol a/neu ofyn am anfon copïau at drydydd partïon sy'n gweithredu ar eu rhan. I ofyn am gopi o gofnodion, llenwch y ffurflen cais i gleifion am fynediad at gofnodion iechyd. Ar gyfer unrhyw gais sy'n gweithredu ar ran eraill, sicrhewch fod caniatâd ysgrifenedig gan y claf yn cael ei ddarparu. Rhaid llenwi'r ffurflen cyn rhyddhau unrhyw gofnodion (gall ffioedd fod yn berthnasol).
Os yw'r claf dros 16 oed, dim ond i'r claf y gellir rhyddhau gwybodaeth, oni bai bod y claf wedi awdurdodi unigolyn trydydd parti dynodedig i weithredu ar ei ran neu gael mynediad i'w gofnodion meddygol.
Rhannu cofnod meddygol eich Meddyg Teulu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal
Yng Nghymru, mae 64 grŵp o feddygfeydd wedi eu sefydlu a gelwir y rhain yn ‘Glystyrau Gofal Sylfaenol’. Eu gwaith yw sicrhau bod anghenion iechyd a gofal cymdeithasol eu holl gleifion yn cael eu diwallu, yn y ffordd orau bosibl. O fewn pob clwstwr, bydd Meddygon Teulu yn gweithio ochr yn ochr ag Ymarferwyr Nyrsio, Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, fel Ffisiotherapyddion, i rannu gwybodaeth ac adnoddau rhyngddynt. Dyma rai o fanteision y ffordd hon o weithio:
- - Parhad o’r berthynas bresennol rhwng meddyg a chlaf yn absenoldeb eich Meddyg Teulu arferol - Gwell mynediad i ymgynghoriadau ar draws gwahanol safleoedd - Amrywiaeth ehangach o wasanaethau
Pwy fydd yn gallu cael mynediad i fy nghofnod meddygol ac at ba ddefnydd?
Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys yn gallu cael mynediad i gofnod meddygol eich Meddyg Teulu. Bydd hyn fel arfer ar gyfer y broblem benodol rydych chi wedi’i chodi, a bydd yn caniatáu i'r gweithiwr proffesiynol sy'n eich asesu gael mynediad cyflymach a haws at wybodaeth berthnasol amdanoch chi.
Gall Fferyllwyr Clwstwr gael mynediad i'ch cofnod wrth, er enghraifft, gynnal adolygiadau presgripsiwn neu ateb unrhyw ymholiadau am eich meddyginiaeth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu presgripsiynu'n ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol.
Bydd gan staff eraill yn y practis, fel derbynyddion, fynediad i'ch cofnod meddygol hefyd er mwyn cyflawni tasgau fel prosesu presgripsiynau, cyflwyno canlyniadau profion a'ch cyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol.
Fel rheol, bydd yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cael mynediad i’'ch cofnodion yn cael eu cyflogi gan naill ai un o Bractisiau’r Meddyg Teulu o fewn y clwstwr neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Pa wybodaeth y gellir cael mynediad iddi?
Mae gwybodaeth, y gellir cael mynediad iddi lle mae angen, yn cynnwys:
- Gwybodaeth bersonol, megis enw, dyddiad geni, rhyw;
- Alergeddau;
- Meddyginiaeth;
- Dyddiadau derbyn i’r ysbyty, mynychu ac atgyfeirio;
- Brechiadau ac imiwneiddiadau;
- Canlyniadau profion, gan gynnwys mesuriadau megis pwysedd gwaed;
- Barnau meddygol (problemau cyfredol ac ôl-broblemau);
- Triniaeth a gweithdrefnau meddygol.
Pa wybodaeth gaiff ei rhwystro rhag ei gwylio?
Bydd unrhyw wybodaeth sy'n cynnwys manylion 3ydd parti yn cael ei rwystro'n rheolaidd rhag gwylio. Efallai y byddwch yn gofyn hefyd am guddio gwybodaeth sensitif benodol. Er enghraifft, efallai y bydd modd cuddio gwybodaeth arbennig o sensitif megis clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, terfynu beichiogrwydd, ac ati o rai unigolion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, trafodwch hyn i ddechrau gyda'ch Rheolwr Practis.
Sut y cedwir fy ngwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol?
Mae’ch cofnod meddygol yn cael ei storio gan eich Meddyg Teulu ar system gyfrifiadurol ddiogel ac mae mynediad i’r cofnod yn cael ei reoli'n llym. Bydd pob un o'r practisiau yn y clwstwr, a'r Bwrdd Iechyd lleol, wedi llofnodi cytundeb i gadarnhau y byddant yn dilyn y rheolaethau llym sy’n bodoli o amgylch y system gyfrifiadurol ei hun, ac o amgylch y staff sy'n cael mynediad i'r system. Mae gan bawb sy'n gweithio yn y clwstwr ddyletswydd gyfreithiol, gontractiol a phroffesiynol i gadw gwybodaeth amdanoch chi'n ddiogel ac yn gyfrinachol.
A allaf ddarganfod pwy sydd wedi gweld fy nghofnod meddygol?
Bob tro ceir mynediad i gofnod meddygol electronig eich Meddyg Teulu, crëir log archwilio. Mae'r logiau archwilio hyn yn cael eu cadw, felly os ydych chi'n poeni bod rhywun wedi cael mynediad i’ch cofnod yn amhriodol, trafodwch hyn i ddechrau gyda'r Rheolwr Practis.
A oes perygl y gallai rhywun arall hacio i mewn i'm cofnod neu y gallai fy ngwybodaeth gael ei cholli?
Mae contractau yn eu lle gyda chyflenwr y systemau cyfrifiadurol clinigol i sicrhau eu bod wedi gosod mesurau diogelwch cadarn. Bydd y mesurau hyn yn atal mynediad i unrhyw wybodaeth heb ganiatâd, yn atal gwybodaeth rhag cael ei cholli neu gael mynediad amhriodol iddi gan drydydd parti.
Am wybodaeth bellach
Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol, gallwch drafod rhannu’ch cofnodion meddygol â’r Rheolwr Practis, y Meddyg Teulu neu unrhyw aelod arall o'r tîm gofal iechyd.